Lleoliad
Gwybodaeth am deithio a'r gwesty
Gwesty'r Marriott Caerdydd
Lôn y Felin, Caerdydd
CF10 1EN
GWELD EIN GWESTY

Trosolwg
Mae Gwesty’r Marriott Caerdydd yn cynnig popeth sydd ei angen arnoch i gael blas ar ein prifddinas fywiog. Wedi'i leoli'n berffaith yng nghanol y ddinas, ychydig gamau o Arena Utilita ac o fewn pellter cerdded i Stadiwm Principality a Chastell Caerdydd, mae ein gwesty cyfeillgar i'r teulu yng nghanol y bwrlwm. Ymlaciwch ar ôl diwrnod hir o gyfarfodydd neu grwydro’r ddinas yn ein hystafelloedd helaeth braf sydd wedi'u hadnewyddu'n ddiweddar, gyda gwelyau cyfforddus a Wi-Fi cyflym. Mwynhewch de p'nawn blasus, coctels a phrydau drwy'r dydd ym mar a brasserie newydd sbon Browns. Gallwch barhau i wneud eich ymarfer corff yn ein canolfan ffitrwydd. Dewiswch ein gwesty i gynnal eich digwyddiad neu gynhadledd nesaf; gyda chwe lleoliad hyblyg ar eu newydd wedd a thimau cynllunio ac arlwyo gwych, ni yw'r dewis perffaith ar gyfer cyfarfod busnes neu gynulliad cymdeithasol yma yng Nghaerdydd. Gyda mynediad diguro i brif atyniadau'r ddinas, mae Gwesty'r Marriott Caerdydd yn cynnig profiad bythgofiadwy.

FFITRWYDD
Canolfan ffitrwydd i westeion 24/7
Mae ein campfa gwesty llawn cyfarpar yn cynnig offer cardio, peiriannau hyfforddi pwysau, pwysau llaw a mwy
DS: Gall prisiau’r gwesty newid, cysylltwch â'r gwesty am ragor o fanylion.
Sut i gyrraedd y gwesty
Defnyddiwch god post CF10 1FL neu teipiwch 'Mill Lane' i'ch system Sat Nav. Mae hyn yn eich arwain at du blaen y gwesty a'r maes parcio. Sylwch fod caniatâd i geir fynd i lawr Lôn y Felin i gael mynediad i'r gwesty.
Maes Parcio
Gall fod yn anodd cael lle parcio felly defnyddiwch Parkopedia i ddod o hyd i'r parcio gorau ar gyfer y diwrnod.

