Bydd y wefan yn ei chyfanrwydd yn Gymraeg yn fuan
Trosolwg
Ein Cynhadledd
Cartref yw popeth; dyma'r sylfaen lle rydym yn adeiladu ein bywydau, ein teuluoedd a'n cymunedau arni. Ond ar hyn o bryd, ledled Cymru, mae cannoedd o filoedd o bobl yn byw heb fynediad at gartref diogel, sicr, addas a gwirioneddol fforddiadwy.
Gyda bron i 95,000 o aelwydydd ar restrau aros am gartref cymdeithasol a mwy na 230,000 o aelwydydd yn dibynnu ar y sector rhentu preifat nad yw'n addas at y diben, mae'n amlwg mai nawr yw'r amser i newid.
Nid dim ond rhoi to uwchben pobl yw roi terfyn ar yr argyfwng tai; mae'n ymwneud â sicrhau bod cartrefi'n diwallu anghenion pobl a bod pobl wrth wraidd ein system dai gyfan.
Ers degawdau, mae Pobl a Chartrefi wedi bod yn gynhadledd sy'n dod ag unigolion a sefydliadau o bob cwr o Gymru, a thu hwnt, ynghyd i nodi achosion sylfaenol ein hargyfwng tai a'r atebion sydd eu hangen. Yn 2026, mae angen y cydweithrediad hwn cymaint ag erioed.
Dyna pam, eleni, mae Pobl a Chartrefi yn mynd ati i ystyried sut y gallwn ddeall yn well beth mae'r bobl sy'n profi'r argyfwng tai ei eisiau o'u cartrefi, a sut y gallwn ni i gyd gyfrannu at gyflawni hyn. Gan gydnabod mai pobl eu hunain sy’n gallu barnu orau o ran yr hyn sydd ei angen arnynt a beth mae cartref yn ei olygu iddynt.



Pynciau Newydd
Prif siaradwyr
Cymorth amlieithog
CYFRI'R DYDDIAU
Gadewch inni gychwyn cyfri'r dyddiau ar gyfer cynhadledd ddigartrefedd fwyaf Cymru
- Days1010
- Hours1010
- Minutes1010
- Seconds1010
Siaradwyr
Cwrdd â'n siaradwyr















