Bydd y wefan yn ei chyfanrwydd yn Gymraeg yn fuan

AGENDA

Dyma flas o arlwy’r gynhadledd.

Mwy o fanylion i ddod.

Amser

Sesiwn

Gwybodeath bellach

09.00

Cofrestru yn agor

09.30

Croeso (Cadeirydd y Gynhadledd – Walis George)

09.40

Croeso (Sefydliad Banc Lloyds)

09.50

Gosod yr olygfa: yr argyfwng tai yng Nghymru (Robin White a JJ Costello)

10.15

Darparu'r cartrefi cymdeithasol y mae pobl eu heisiau a'u hangen ledled Cymru

Mae cynyddu'r cyflenwad o gartrefi cymdeithasol yn allweddol i roi diwedd ar yr argyfwng tai yng Nghymru; fodd bynnag, ni all y drafodaeth hon ymwneud â ffigyrau yn unig, ond rhaid iddi fod wedi'i gwreiddio yn nymuniadau ac anghenion pobl Cymru. Yn y sesiwn hon, byddwn yn ystyried canfyddiadau gwaith newydd gan Shelter Cymru sy'n edrych ar brofiadau tenantiaid tai cymdeithasol a'u blaenoriaethau o ran tai cymdeithasol.

Yna, bydd panel o arbenigwyr yn ymuno â ni i ystyried canfyddiadau'r ymchwil ac i drafod sut y gallwn ddarparu cartrefi cymdeithasol ar raddfa helaeth, gan ystyried hefyd sut y gallwn ddiwallu'r anghenion a'r dymuniadau hynny'n well ar gyfer tenantiaid presennol a'r rhai yn y dyfodol. 

 

Cadeirydd: Walis George 

Siaradwyr: Cymheiriad Ymchwil Shelter Cymru; Duncan Forbes, Trivallis; Wendy Dearden, Sefydliad Bevan; Olivia Browne, TPAS Cymru; Katie Clubb, Cyngor Conwy  

11.15

Egwyl a lluniaethysgafn

11.30

Sesiyn Grwp

Goblygiadau Deddf Digartrefedd a Dyrannu Tai Cymdeithasol (2026)

Caiff y sesiwn hon ei harwain gan Dîm Hyfforddi mewnol Shelter Cymru, a bydd yn rhoi trosolwg o'r prif newidiadau y gallwn eu disgwyl yn y blynyddoedd i ddod drwy Ddeddf Digartrefedd a Dyrannu Tai Cymdeithasol. 

Siaradwyr: Mark Hodges, Shelter Cymru; Ceri Murphy, Shelter Cymru  

Archwilio dulliau sy’n cael eu harwain gan y gymuned i ddatrys yr argyfwng tai (mewn partneriaeth â Cwmpas)

Ar hyn o bryd, mae cymunedau ledled Cymru yn profi realiti dyddiol yr argyfwng tai. Yn y blynyddoedd diwethaf, mae Llywodraethau Cymru wedi buddsoddi'n helaeth mewn darparu'r atebion cenedlaethol sydd eu hangen. Ond, ar gyfer llawer o ardaloedd, mae'n hanfodol bod yr atebion lleol yn ategu'r rhaglenni cenedlaethol hynny, a bod cymunedau'n cael eu grymuso i yrru'r newidiadau y gwyddant sydd eu hangen yn eu hardaloedd. 

Yn y sesiwn hon yn Pobl & Chartrefi, byddwn yn archwilio rhai o'r atebion hyn ac yn ystyried pa wersi y gallwn eu dysgu gan yr unigolion a'r cymunedau sydd eisoes yn ymwneud â chyflawni newid. Ar yr un pryd, byddwn yn ceisio dysgu mwy am y rhwystrau sy'n atal cymunedau eraill ar draws Cymru rhag bwrw ymlaen â'u hymgyrchoedd eu hunain. 

Cadeirydd: Casey Edwards, Cwmpas 

Siaradwyr: Richard Paynter, Sefydliad Banc Lloyds 

Atal Digartrefedd ar Waith: Creu Tenantiaethau Cynaliadwy drwy Wasanaethau Cyhoeddus Integredig

Yn aml, mae'r atal digartrefedd mwyaf llwyddiannus yn digwydd heb i neb sylwi arno. Y denantiaeth sydd byth yn chwalu, yr argyfwng iechyd meddwl a nodwyd yn gynnar, y rhyddhau o'r ysbyty sy'n llwyddo oherwydd bod y gefnogaeth tai cywir ar waith, neu'r teulu sy'n aros yn ddiogel yn eu cartref oherwydd bod gwasanaethau wedi ymyrryd cyn i broblemau waethygu. 

Yn y sesiwn hon yn Pobl & Chartrefi 2026, byddwn yn archwilio sut y gall tai, iechyd a gofal cymdeithasol gydweithio i adeiladu tenantiaethau cynaliadwy trwy ymyrraeth gynharach a gweithio mewn partneriaeth gryfach. 

1. Ble mae'r cyfleoedd gorau i ymyrryd yn gynharach i atal tenantiaethau rhag chwalu? 

2. Sut olwg sydd ar bartneriaeth effeithiol rhwng tai, iechyd a gofal cymdeithasol yn ymarferol? 

3. Sut gall sefydliadau symud y tu hwnt i ymateb i ddigartrefedd tuag at ei atal? 

Cadeirydd: Dr Kerry Bailey, Iechyd Cyhoeddus Cymru, Ann Lloyd, Cyngor Sir Ddinbych, Siaradwyr  

Rôl yr hawl i dai digonol wrth sicrhau ein bod yn diwallu anghenion cymunedau amrywiol.

Yn y sesiwn hon yn Pobl & Chartrefi, byddwn yn ystyried manteision deddfu ar gyfer hawl i dai digonol, o safbwynt pobl ag anghenion gwahanol. 

Ledled Cymru, mae cymunedau, teuluoedd ac unigolion lle nad yw eu hanghenion yn cael eu diwallu gan y systemau tai y maent yn dibynnu arnynt. Mae hyn yn wir am bobl hŷn a phobl anabl, pobl sydd wedi dod yma o wledydd eraill, pobl o ddiwylliannau gwahanol, pobl sy'n rhan o'r gymuned LHDTC+, ac eraill. 

Mae sicrhau bod anghenion unigryw'r cymunedau hyn yn cael eu diwallu yn allweddol i wireddu'r hawl i dai digonol yn ymarferol. Dyna pam y bydd y sesiwn hon yn dod â grŵp o arbenigwyr o Gymru ynghyd i drafod: 

 

  • Beth yw rhai o'r heriau penodol sy'n wynebu gwahanol grwpiau? 

 

  • Beth nad ydym yn ei wybod ar hyn o bryd, ac sydd angen i ni ei wybod, er mwyn gwireddu'r hawl i dai digonol yn ymarferol ar gyfer y grwpiau hyn? 

 

  • Beth allwn ni ei wneud – ar y cyd – i gefnogi Llywodraeth Cymru nid yn unig i ddeddfu ond i wireddu yr hawl i dai digonol i bawb yng Nghymru, gan gynnwys y grwpiau hyn. 

 

Cadeirydd: Alicja Zalesinska, Tai Pawb 

Siaradwyr: Paula, Kennedy, Hedyn; Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru; Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod 

12.30

Cinio

13.30

Prif Araith: Sian Gwenllian AS (Gweinidog y Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio)

14.00

Prif Araith y Prynhawn: mewnsgwrsgyda Daniel Hewitt

Mae Daniel Hewitt yn newyddiadurwr arobryn ac yn Olygydd Ymchwiliadau presennol ITV News. Mae ei waith wedi cynnwys ymchwiliadau proffil uchel a phwerus i system dai Prydain; drwyddynt, mae wedi datgelu enghreifftiau niferus o fethiannau polisi sydd wedi arwain at yr argyfwng tai y mae sefydliadau fel Shelter Cymru yn ei weld bob dydd. 

Yn y sesiwn hon, bydd Daniel yn trafod gyda Robin White, Pennaeth Ymgyrchoedd Shelter Cymru, ei waith fel newyddiadurwr, ei lyfr newydd ‘Left to Rot: How Government’s betrayed us and how to fix it’, a’i farn ar yr hyn sydd angen ei wneud i roi diwedd ar yr argyfwng tai cenedlaethol ledled Prydain. gyda Phennaeth Ymgyrchoedd Shelter Cymru. 

14.30

Micro-ddosbarthMeistr: cymharu dulliau o ddarparu tai cymdeithasolar draws y DU

Bob Smith, Prifysgol Caerdydd

14.45

Micro-ddosbarth Meistr: Prosiect Hil a Thai

EYST 

15.00

Egwyl a lluniaethysgafn

15.15

Adeiladu sector rhentu preifat sy'n gweithio i bobl

Dros y 25 mlynedd diwethaf, mae nifer y bobl yng Nghymru sy'n dibynnu ar y sector rhentu preifat am eu cartref wedi cynyddu'n sylweddol. Er syndod i neb, mae'r cynnydd cyflym hwn wedi creu heriau sylweddol, ac mae llawer o bobl a sefydliadau yng Nghymru bellach o'r farn bod y sector rhentu preifat wedi chwalu. 

Gan fod Llywodraeth Cymru bellach yn ystyried o ddifrif gyflwyno newidiadau polisi yn y maes hwn, byddwn yn defnyddio'r sesiwn hon i glywed gan banel o arbenigwyr ynghylch a yw'r sector wir wedi chwalu, pa newidiadau polisi sydd eu hangen o bosibl, a pha risgiau posibl y mae angen i'r newidiadau hynny eu hystyried 

Cadeirydd: Robin White, Shelter Cymru 

Siaradwyr: Holly Williamson, Generation Rent; Sam Haywood, Panel Cynghori Shelter Cymru ar y Sector Rhentu Preifat; Kiera Marshall AS, Aelod o’r Senedd dros Caerdydd Penarth; Steve Bletsoe, NRLA

16.00

Sylwadau terfynol a diolch gan Mike Theodolou, Cadeirydd Shelter Cymru